Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
Maggie Fearn
Therapydd Chwarae a Mabol, Seicotherapydd Plant a Glasoed, a Goruchwylwraig Glinigol.
Bu Maggie’n ymarferydd chwarae am 30 mlynedd, yn ymarferydd chwarae yn y coed rhwng 2001 a 2018, ac yn ymarferydd chwarae awyr agored iachaol er 2009. Cwblhaodd ei hyfforddiant Meistr mewn Chwarae Datblygiadol ac Iachaol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010, gan gymhwyso’n therapydd chwarae yn 2014 ac yn seicotherapydd plant a glasoed yn ogystal â therapi mabol yn 2016.
Mae ei harddull clinigol yn canolbwyntio ar waith iachaol gyda sylw neilltuol i ddatblygiad a thrawma â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’n datblygu arddull seiliedig ar natur at therapi chwarae, hefyd, yn ei chlinig pwrpasol prydferth yn Sir Gaerfyrddin, ac yn hyfforddi therapyddion chwarae a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol eraill i gynnwys natur yn eu hymarferiad.
Mae Maggie’n cynnig therapi chwarae wedi’i ganoli ar y plentyn, yn ogystal â gweithio â rhieni a gofalwyr mewn therapi mabol. Bu iddi helpu datblygu Rhaglen Meithrin Teuluoedd y Windfall Centre, gan gefnogi a chryfhau perthnasau ymlyniad rhwng mamau a’u rhai bychain o dan bump oed.
Bu’n Uwch-ddarlithydd ar y cwrs MSc Therapi Chwarae ym Mhrifysgol De Cymru hyd Ebrill 2022, ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Materion Academaidd (MA Seicotherapi Creadigol) yn y Ganolfan Therapi Plant, Iwerddon. Mae gwaith academaidd Maggie yn cynnwys cyhoeddi mewn cyfnodolion a chyfrannu penodau i lyfrau yn rheolaidd, ac ar y cyd â’i hymarfer clinigol mae ei gwaith o werth aruthrol i ansawdd da’r gwasanaeth a gyflawnir yn y Windfall Centre.